dylunio nfys design

web design dylunio gwe

Ynghylch

Mae Nfys yn cael ei redeg gennyf i, Kate Watkiss, dylunydd gweledol a datblygwr gwe pen blaen gyda dros 20 mlynedd o brofiad yn creu gwefannau yma yng Nghymru. Symudais i Gymru o Ogledd Lloegr yn 1998 ac rwy'n ddysgwr Cymraeg. Gallaf eich helpu i adeiladu neu reoli eich gwefan dwyieithog ac os yw’n well gennych gyfathrebu yn Gymraeg fe wnaf fy ngorau, boed hynny ar lafar neu drwy e-byst.

Mae'n bwysig iawn i mi bod fy nghleientiaid yn cael profiad da pan fyddwn yn gweithio ar eu prosiect. Rwyf wrth fy modd yn gwrando ar eu syniadau ar gyfer eu gwefan ac yn eu cefnogi i gyflawni hynny.

Boed yn brosiect ailgynllunio llawn neu'n rhedeg eu gwefan o ddydd i ddydd, rwy'n ceisio gwneud y broses mor hawdd â phosibl iddynt. Mae yna lawer o wahanol ffyrdd o fynd ati i adeiladu gwe ac rwy'n mwynhau gweithio gyda fy nghleientiaid i ddarganfod y technegau gorau i'w defnyddio.

Gadewch i ni ddechrau... Cysylltwch